Gwregysau Diogelwch
Gwregysau Diogelwch
Mae faniau camerâu diogelwch bellach yn gorfodi gyrwyr nad ydynt yn gwisgo gwregys, yn ogystal â gyrwyr sy'n defnyddio ffonau symudol a gyrwyr sy'n goryrru. Gallwch gael dirwy hyd at £500 os nad ydych yn gwisgo gwregys.
Caiff pob trosedd ei recordio ar gardiau storio digidol a'u hanfon i'n Swyddfa Docynnau Canolog i'w prosesu. Bydd y Swyddfa Docynnau Ganolog berthnasol a fydd yn anfon yr wybodaeth briodol at geidwad cofrestredig y cerbyd.
Bydd unrhyw un nad yw'n gorfod gwisgo gwregys diogelwch yn gallu nodi hyn ar y cais gwybodaeth am yrwyr ac, os yw'n berthnasol, anfon copi o'i dystysgrif eithrio.
Nid oes rhaid gwisgo gwregys diogelwch os ydych chi'n:
- yrrwr sy'n bacio'n ôl neu sy'n goruchwylio gyrrwr newydd sy'n bacio'n ôl
- mewn cerbyd a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau'r heddlu, tân neu achub
- teithiwr mewn cerbyd masnachu ac rydych yn archwilio i nam
- gyrru cerbyd nwyddau ar daith dosbarthu nwyddau sy'n teithio 50 metr neu lai rhwng mannau dosbarthu
- gyrrwr tacsis trwyddedig sy'n 'chwilio am fasnach' neu'n cludo teithwyr
- Rhai cyflyrau meddygol.
|
Sedd flaen |
Sedd gefn |
Pwy sy’n gyfrifol |
Gyrrwr |
Rhaid gwisgo gwregys diogelwch os oes un ar gael |
|
Gyrrwr |
Teithiwr sy’n oedolyn |
Rhaid gwisgo gwregys diogelwch os oes un ar gael |
Rhaid gwisgo gwregys diogelwch os oes un ar gael |
Teithiwr |
Plentyn dan 3 oed |
Rhaid defnyddio’r sedd car/ataliad cywir i blentyn. Dylid datgysylltu’r bag aer os yw’r plentyn mewn sedd car sy’n wynebu’r cefn |
Rhaid defnyddio’r sedd car/ataliad cywir i blentyn. Os nad oes un ar gael mewn tacsi, gall deithio heb sedd car/wregys diogelwch. |
Gyrrwr |
Plentyn o’i ben-blwydd yn 3 oed hyd at 135 cm (tua 4’ 5”) (neu ei 12fed pen-blwydd p’un bynnag sydd gyntaf) |
Rhaid defnyddio’r sedd car/ataliad cywir i blentyn. |
Rhaid defnyddio’r sedd car/ataliad cywir i blentyn. Os nad yw’r sedd car gywir ar gael, rhaid iddo ddefnyddio gwregys, ond dim ond os yw’r daith yn annisgwyl, yn angenrheidiol a thros bellter byr. |
Gyrrwr |
Plentyn 12 neu 13 oed neu dros 135cm (tua 4’ 5”) |
Rhaid gwisgo gwregys i oedolyn |
Rhaid gwisgo gwregys i oedolyn |
Gyrrwr |
Plentyn dros 14 oed |
Rhaid gwisgo gwregys i oedolyn |
Rhaid gwisgo gwregys i oedolyn |
Teithiwr |