Gwybodaeth Tystysgrif Camera
Mae'r holl gyfarpar camerâu gorfodi cyflymder neu olau coch a ddefnyddir gan Bartneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru wedi'u cymeradwyo i'w defnyddio gan y Swyddfa Gartref.
Caiff calibreiddiad cyfarpar canfod cyflymder ei wirio'n flynyddol gan y gwneuthurwr yn unol â Chymeradwyaeth Math y Swyddfa Gartref.
Mae'r holl systemau'n cynnal gwiriad hunan-ddiagnostig cyn defnyddio'r cyfarpar ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio os ceir problem.
Caiff y camerâu cyflymder eu calibradu wrth eu dosbarthu i'r bartneriaeth am y tro cyntaf, a cheir tystysgrif galibradu â phob dyfais newydd. Dengys y dystysgrif ddyddiad y calibradu. Dylech gyflwyno unrhyw gais technegol i'r gwneuthurwyr. Dim ond y gwneuthurwyr sydd â manylion y weithdrefn galibradu unrhyw gamera penodol.
Mae rhai o'n systemau camera hefyd yn gofyn i ni galibradu safleoedd camerâu sefydlog. Caiff safleoedd camerâu eu calibradu'n flynyddol gan y gwneuthurwyr, a dyrennir tystysgrif o'r calibradu ar y safle hefyd. Mae safleoedd camerâu'n rhan o'r system gorfodi cyflymder gyfan ac fe'u datblygir gan y gwneuthurwr â'r camera sy'n cyd-fynd â'r system honno.
Mae'r bartneriaeth hon yn defnyddio systemau canfod ar hyn o bryd a wneuthurir gan:
- TRUVELO (UK) Ltd (the UK office being in Brentford, Middlesex)
- GATSO (distributed by SERCO of Southall, Middlesex)
- LASER TECH UK of Warwick
- SPEED CHECK SERVICES (SCS) Ltd of Camberley, Surrey
- RED SPEED INTERNATIONAL of Kidderminster, Worcestershire
- VYSIONICS INTELLIGENT TRAFFIC SOLUTIONS of Frimley, Surrey
Caiff yr holl safleoedd a chamerâu eu calibradu yn ôl y weithdrefn Cymeradwyaeth Math. Byddwn ond yn defnyddio camerâu sydd â thystysgrif galibradu ddilys ar gyfer gorfodi cyflymder neu oleuadau coch.
Tystysgrif Gydymffurfio – Mae hyn yn tystio bod y ddyfais yn ddilys i weithredu'n unol â'r Gymeradwyaeth Math a roddwyd am y cyfnod a nodwyd yn y dystysgrif.
Tystysgrif Gydymffurfio ar ôl atgyweirio - Mae hyn yn tystio bod y ddyfais yn ddilys i weithredu'n unol â'r Gymeradwyaeth Math a roddwyd am y cyfnod rhwng dyddiad y dystysgrif hon a diwedd y cyfnod cydymffurfio blynyddol a nodwyd yn y dystysgrif rhif cydymffurfio.