Gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau
Mae gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau yn fater difrifol sy’n peryglu bywydau. Os cewch eich dal yn yfed a gyrru yng Nghymru, gall y cosbau fod yn llym. Gallech wynebu gwaharddiad gyrru o 12 mis o leiaf, dirwy anghyfyngedig, a dedfryd o garchar am chwe mis.
Mae'r cosbau'n debyg am yrru dan ddylanwad cyffuriau a reolir. Mae hyn yn cynnwys cyffuriau anghyfreithlon a chyffuriau a ragnodwyd yn gyfreithlon. Bydd eich trwydded yrru hefyd yn dangos eich bod wedi’ch cael yn euog o yrru dan ddylanwad cyffuriau. Bydd hyn yn para am 11 mlynedd.
Efallai y bydd angen i chi ddweud wrth eich cyflogwr os ydych yn cael eich cyhuddo o yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Byddan nhw’n gweld eich euogfarn ar eich trwydded os ydych chi’n gyrru fel rhan o’ch gwaith ac fe allech chi golli’ch swydd. Byddwch hefyd yn talu premiymau yswiriant uwch ac yn cael anhawster teithio i wledydd fel UDA.
Terfynau a phrofion yfed a gyrru
Y terfyn alcohol cyfreithlon yng Nghymru yw 80 miligram o alcohol fesul 100 mililitr o waed neu 35 microgram o alcohol fesul 100 mililitr o anadl.
Nid oes unrhyw ffordd o wybod faint o ddiodydd y gallwch eu cael cyn bod dros y terfyn. Mae’n wahanol i bawb a gallai gael ei effeithio gan eich oedran, pwysau, metaboledd (pa mor gyflym rydych chi’n defnyddio ynni), faint rydych chi wedi’i fwyta ac ati. Yr unig ffordd i waredu alcohol o'ch system yw aros. Nid oes unrhyw dric na champ i'w waredu o'ch system yn gyflymach.
Mae hyn yn bwysig cofio os ydych chi wedi bod yn yfed y noson cyn i chi yrru. Efallai y byddwch yn teimlo’n iawn i yrru, ond fe allech fod dros y terfyn cyfreithiol ac yn dal i gael eich effeithio gan yr alcohol yn eich system.
Gall swyddog heddlu ofyn i chi gymryd prawf anadl os yw’n meddwl eich bod wedi bod yn yfed, os ydych wedi cyflawni trosedd draffig, neu os ydych wedi bod mewn gwrthdrawiad.
Rydych chi'n rhydd i fynd os yw'n dangos nad ydych chi dros y terfyn ond byddwch chi'n cael eich arestio os yw'n dangos eich bod chi. Yna byddwch yn cael eich cludo i orsaf heddlu a gofynnir i chi gwblhau prawf anadl arall. Os yw hyn yn bositif, byddwch yn wynebu cyhuddiad troseddol.
Cyfyngiadau a phrofion ar gyfer gyrru ar gyffuriau
Mae’n anghyfreithlon gyrru os nad ydych yn ffit i wneud hynny ar ôl cymryd cyffuriau cyfreithlon neu anghyfreithlon, neu os oes gennych lefelau penodol o gyffuriau anghyfreithlon yn eich gwaed. Mae hyn yn wir hyd yn oed os nad yw'r cyffuriau anghyfreithlon yn effeithio ar eich gyrru.
Mae bob amser yn well siarad â’ch meddyg neu fferyllydd os ydych chi wedi cael presgripsiwn am gyffuriau ac nad ydych chi’n siŵr a ddylech chi yrru ar ôl eu cymryd.
Gall swyddog heddlu ofyn i chi wneud ‘asesiad dan ddylanwad’ os yw’n meddwl eich bod yn gyrru ar ôl cymryd cyffuriau. Gall hyn gynnwys gofyn i chi wneud profion, fel cerdded mewn llinell syth. Gall ddefnyddio pecyn profi cyffuriau i wirio am ganabis a chocên yn eich system.
Bydd methu'r gwiriadau hyn, neu os yw'r swyddog yn amau bod eich gyrru wedi'i effeithio gan gyffuriau, yn arwain at eich arestio a'ch cludo i orsaf heddlu. Bydd angen i chi gwblhau prawf gwaed neu wrin yng ngorsaf yr heddlu. Gall y gwiriadau ychwanegol hyn sgrinio am gyffuriau eraill, fel ecstasi, LSD, cetamin, a heroin. Os yw hyn yn bositif, byddwch yn wynebu cyhuddiad troseddol.
Awgrymiadau defnyddiol
Mae bob amser yn well cynllunio ymlaen llaw os ydych chi'n mynd allan ac yn yfed.
· Trefnwch lifft
· Archebwch dacsi ymlaen llaw neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
· Penodwch yrrwr ar gyfer y noson nad yw'n yfed
· Yfwch ddiod ddialcohol os ydych yn gyrru
Peidiwch ag anghofio cadw’r rhain mewn cof y bore wedyn os ydych chi wedi bod yn yfed. Amser yw'r unig beth sy'n gwaredu alcohol o'ch system.