Pryderon Cymunedol

Ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn newydd, yr ydym wedi adolygu sut yr ydym yn ystyried lleoliadau gorfodi newydd mewn ardaloedd 20mya.

Gan y bydd newid i’r terfyn cyflymder yn dylanwadu ar ymddygiad gyrwyr, byddwn yn caniatáu amser i ymddygiad gyrwyr addasu. Byddwn yn gweithio’n agos â’n partneriaid er mwyn rhoi addysg ar ochr y ffordd a hyrwyddo’r newid yn ymddygiad gyrwyr. Byddwn yn sicrhau bod y terfynau cyflymder newydd yn cael eu parchu yn ystod y cyfnod hwn ac yn erlyn y gyrwyr mwyaf peryglus. 

Byddwn yn cwblhau asesiad o’r lleoliad y gofynnwyd amdano, gan y byddwn yn parhau i ystyried lleoliadau gorfodi newydd yn dilyn gwrthdrawiadau, neu bryderon perygl uwch, mewn ardal 20mya. Os nad yw’r ardal yn addas ar gyfer gorfodi ar hyn o bryd, byddwn yn sicrhau ei bod yn cael ei nodi fel lleoliad posibl ar gyfer ein timoedd ymgysylltu ar ochr y ffordd pwrpasol.

Nid yw hyn yn effeithio ar ardaloedd lle mae’r terfyn cyflymder yn fwy nag 20mya.

Mae GanBwyll yn derbyn sawl cais gan gymunedau ac unigolion yn gofyn am fesurau gorfodi cyflymder ar eu ffyrdd nad ydynt yn safleoedd camera cymeradwy. Gwneir ceisiadau am fesurau gorfodi gan bobl sy’n poeni y bydd goryrru yn eu hardal yn arwain at wrthdrawiad neu ddamwain yn y pen draw. 

Os ydych yn poeni am oryrru yn eich cymuned, cwblhewch y ffurflen berthnasol a byddwn yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib.

Os yw'ch ymholiad neu'ch pryder yn ymwneud â lleihau cyfyngiadau cyflymder, gwaith peirianneg fel gosod mesurau tawelu traffig neu ddefnyddio Arwyddion a Weithredir gan Gerbydau (VAS) neu Ddyfeisiau Dynodi Cyflymder (SIDs) cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol.

Oherwydd cynnydd yn y galw am orfodaeth, mae'n debygol y bydd oedi sylweddol o ran amseroedd ymateb i Ffurflenni Pryder Cymunedol GanBwyll a Ffurflenni Ymholiadau Cyffredinol.