Amodau A Thelerau Defnyddio'r Wefan
Darllenwch ein hamodau defnyddio'n ofalus oherwydd byddwn yn ystyried eich bod wedi cytuno i gael eich rhwymo ganddynt os ydych yn defnyddio'r wefan. Rydym yn cadw'r hawl i amrywio'r amodau defnyddio ar unrhyw adeg. Rydym argymell eich bod yn ailddarllen yr amodau defnyddio'n rheolaidd oherwydd y tybir eich bod wedi derbyn y newidiadau os ydych yn parhau i ddefnyddio'r wefan ar ôl iddynt ddod i rym.
Ymwadiad
Rydym yn gwneud pob ymdrech ac yn cymryd pob rhagofal i sicrhau bod yr wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan hon yn gywir ar adeg ei chyhoeddi a'i bod yn cael ei diweddaru'n rheolaidd, ond nid ydym yn gwarantu ei chywirdeb. Rydym yn eich cynghori i gadarnhau cywirdeb unrhyw wybodaeth cyn gweithredu ar ei sail. Gallwn newid yr wybodaeth unrhyw adeg heb rybudd.
Rydym yn cyhoeddi'r wefan 'fel y mae' heb ddarparu gwarant o unrhyw fath, boed hynny'n eglur neu ymhlyg, parthed gweithrediad ein gwefan, cywirdeb yr wybodaeth neu'r cynnyrch neu'r gwasanaethau y cyfeirir atynt ar y wefan (i'r graddau y gellir eithrio gwarantau o'r fath dan unrhyw gyfraith berthnasol). Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddeillio o ddefnyddio'r wefan, o ganlyniad i unrhyw anghywirdeb yn yr wybodaeth neu o ganlyniad i unrhyw beth sydd wedi'i hepgor ohoni.
Cywirdeb
Gall yr wybodaeth gynnwys anghywirdeb technegol neu wallau argraffyddol. Rydym wedi gwneud ymdrechion rhesymol i sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir ar adeg ei chynnwys. Fodd bynnag, fel unrhyw wybodaeth argraffedig arall, mae'n bosib na fydd yr wybodaeth yn gyfredol pan fydd y defnyddiwr yn ei chyrchu ar y wefan. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw wall mewn gwybodaeth o'r fath nac am unrhyw beth sydd wedi'i hepgor ohoni neu fethiant i'w diweddaru, a'r defnyddiwr yn unig fydd yn gyfrifol am unrhyw benderfyniadau a wneir yn seiliedig ar yr wybodaeth.
Rydym yn cadw'r hawl i newid y wefan hon ar unrhyw adeg heb rybudd.
Dolenni sy'n rhoi mynediad i wefannau allanol
Mae rhai dolenni ar y wefan hon yn rhoi mynediad i wefannau eraill a chanddynt eu harferion preifatrwydd a chasglu data eu hunain. Nid ydym yn gyfrifol nac yn atebol am bolisïau'r trydydd partïon hynny.