Tocynnau a throseddau
Cysylltwch â'r Uned Camerâu Diogelwch canlynol yn achos tramgwyddau o fewn ardaloedd camerâu GanBwyll:
Sicrhewch eich bod yn cbwlhau'r maes "Rhif Cyfeirnod" gan y bydd hyn yn ein galluogi i ymdrin a'ch ymholiad yn brydlon
Er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data, mae’n rhaid cyflwyno pob ymholiad sy’n ymwneud â Hysbysiad o Fwriad i Erlyn yn ysgrifenedig. Ni chaniateir rhoi gwybodaeth dros y ffôn. BYDDWN YN YMATEB I GEISIADAU YSGRIFENEDIG O FEWN 10 NIWRNOD GWAITH.
Canolbarth a De Cymru
Yr Uned Camerâu Diogelwch
Blwch Post 95
Trefforest
Pontypridd
CF37 9DH
Ffôn: Ar hyn o bryd dim ond drwy ebost neu lythyr gall Heddlu Gogledd Cymru ddelio gyda'ch ymholiad.
Ffacs: 01443 660416
E-bost: swpctoadmins@south-wales.police.uk
Os byddwch yn e-bostio'r Swyddfa Tocynnau Ganolog, cofiwch gynnwys rhif eich hysbysiad a'ch enw llawn ym mhob gohebiaeth.
Sylwer: os na allwch gysylltu â'r swyddfa docynnau ganolog dros y ffôn, peidiwch â ffonio'r rhif 101 oherwydd bod hyn ar gyfer galwadau brys a galwadau nad ydynt yn rhai brys yn unig. Ni all y staff sy'n ateb galwadau rhif ffôn 101 helpu â materion camerâu diogelwch.
Gogledd Cymru
Yr Uned Prosesu Camerâu Diogelwch
Blwch Post 53
Prestatyn
LL19 7WW
E-bost: scpu@northwales.police.uk
Ni ddylid defnyddio codau post ar gyfer cyfeiriadau Blwch Swyddfa Bost mewn dyfeisiau llywio lloeren, oherwydd cewch eich cyfeirio i swyddfa ddosbarthu’r Post Brenhinol. Dylid cysylltu â’r swyddfa’n ysgrifenedig neu dros y ffôn.
HYSBYSIAD PWYSIG – GWEFANNAU TALU ANSWYDDOGOL
Daeth gwybodaeth i’n sylw bod gwefannau’n cynnig gostyngiadau sylweddol ar ddirwyon neu hysbysiadau o dâl cosb – peidiwch â’u defnyddio hwy. Er y bydd y wefan yn cymryd eich arian, ni fydd eich dirwy neu eich cosb benodol yn cael ei thalu ac mae’n bosib y byddwch yn wynebu camau gorfodi ychwanegol. Nid oes unrhyw ostyngiadau na mentrau gan y llywodraeth yn bodoli ar gyfer unrhyw fath o docyn.
Mae’n RHAID i chi ddefnyddio’r dulliau talu swyddogol a nodir ar eich hysbysiad. Os daw cwsmeriaid o hyd i wefannau o’r fath, fe’u cynghorir i roi gwybod amdanynt i www.actionfraud.police.uk sy’n eu monitro a’u cadw.