Asesir pryderon goryrru mewn unrhyw derfyn cyflymder yn unigol gan ddefnyddio ein meini prawf safle. Mewn ardaloedd nad ydynt yn addas ar gyfer gorfodi, efallai y bydd gweithrediadau GanBwyll eraill hefyd yn cael eu hystyried, megis Gwylio Cyflymder Cymunedol a Ymgyrch Ugain, neu atgyfeirio at asiantaethau partner fel awdurdodau priffyrdd.
GanBwyll - 20mya
Mae GanBwyll a heddluoedd Cymru yn cefnogi’r terfyn cyflymder cenedlaethol o 20mya.
Ynghyd â phartneriaid eraill fel gwasanaethau tân ac achub Cymru, awdurdodau lleol a grwpiau Gwylio Cyflymder Cymunedol, rydym yn defnyddio cyfuniad o waith ymgysylltu a gorfodi mewn ardaloedd 20mya. Y flaenoriaeth yw hysbysu'r cyhoedd a chadw pobl ar ein ffyrdd yn ddiogel.
Ddydd Llun, 8 Ionawr 2024, lansiwyd ‘Ymgyrch Ugain’ er mwyn sicrhau sgyrsiau am ddim ar ochr y ffordd ledled Cymru. Mae'r timau hyn yn parhau i weithio gyda chymunedau ac yn ymateb i bryderon ynghylch goryrru yn genedlaethol.
Mae rhagor o wybodaeth am Ymgyrch Ugain ar gael yn: Ymgyrch Ugain
Lle mae tystiolaeth o bryderon o ran diogelwch ar y ffyrdd mewn terfynau cyflymder 20mya, byddwn yn eu hasesu gan ddefnyddio ein meini prawf safle. Os ydynt yn bodloni'r meini prawf hyn, cânt eu gorfodi, fel gydag unrhyw derfyn cyflymder arall.
Ganbwyll 20Mya Safle Gorfodi 30.09.2024 Llywodraeth Cymru - 20mya Polisi 20mya Ymgyrch Ugain
Data Troseddau 20mya
Dechreuwyd ailgyflwyno gorfodi mewn ardaloedd 20mya ar ddechrau mis Tachwedd 2023. Roedd hyn mewn lleoliadau gorfodi 20mya presennol nad oedd y newid yn y ddeddfwriaeth yn effeithio arnynt ac roedd yr arwyddion cywir yn eu lle.
Gohiriodd GanBwyll orfodi 20mya dros dro ym mis Medi 2023 yn dilyn y newid yn y ddeddfwriaeth. Gwnaethpwyd y penderfyniad am sawl rheswm. Roedd hyn yn cynnwys rhoi amser i bobl addasu i'r newid, i alluogi awdurdodau priffyrdd i addasu arwyddion ffyrdd a gorchmynion rheoleiddio traffig, ac oherwydd bod sesiynau sgwrs ymyl ffordd yn cael eu blaenoriaethu. Daeth y cyfnod monitro data hwn i ben ar 18 Mawrth 2024, yn dilyn cymeradwyaeth gan y prif gwnstabliaid, ac mae unrhyw bryderon ynghylch goryrru o fewn ardaloedd 20mya yn cael eu trin fel y byddent ar gyfer unrhyw derfyn cyflymder arall.
Mae sesiynau sgwrs ymyl y ffordd yn parhau i gael eu cynnal gan GanBwyll, gwasanaethau tân ac achub Cymru, a phartneriaid eraill, i helpu gyrwyr i addasu i’r newid. Bydd y sesiynau hyn yn parhau trwy gydol 2024, gyda thimau penodedig yn gweithio o dan GanBwyll i’w cyflwyno o dan yr enw ‘Ymgyrch Ugain’.
Cwestiynau Cyffredin
Beth fydd yn digwydd os bydd gennyf bryder goryrru newydd mewn ardal 20mya?
Mae Ymgyrch Ugain yn defnyddio offer monitro cyflymder i adnabod pobl sy’n teithio’n gynt na’r terfyn cyflymder, cyn i swyddogion heddlu stopio’r cerbyd a rhoi dewis i’r gyrrwr o ymgysylltu ymyl ffordd neu bwyntiau a dirwy. Tra bydd gyrwyr yn cael cynnig yr ymgysylltu am ddim fel dewis amgen, gallant wrthod, a fydd yna’n arwain at erlyniad.
Ni fydd y rhai sy’n gyrru llawer cynt na’r terfyn cyflymder yn gymwys ar gyfer sesiwn ymgysylltu, a byddant yn cael eu herlyn.
Sut mae rhoi gwybod am oryrru yn fy ardal?
Cewch ddefnyddio’r ffurflenni cyswllt ar ein gwefan i gysylltu â’r tîm GanBwyll yn eich ardal chi.
A yw maint y gorfodi a wnewch wedi newid?
Na. Ni fu unrhyw newid yn y swm o orfodi a ddarparwn. Bu cynnydd mewn sgyrsiau ymyl ffordd drwy Ymgyrch Ugain.
Mae GanBwyll yn cymhwyso canllawiau Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, sy’n amlinellu trothwyon gorfodi o ddim llai na 10% a 2mya. Yn dilyn y newid yn y terfyn diofyn, caniataodd prif swyddogion yr heddlu i ni gynyddu hyn i 10% ynghyd â 4mya mewn ardaloedd 20mya yn unig, sy’n golygu ein bod yn dechrau erlyn ar 26mya mewn terfyn 20mya.
A gawn ni dwmpathau cyflymder neu fesurau peirianegol eraill?
Yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am osod mesurau arafu cyflymder, megis twmpathau cyflymder, arwyddion neu gamerâu sefydlog. Gofynnwn yn garedig ichi gysylltu â’ch awdurdod lleol ar gyfer unrhyw gais sy’n ymwneud â’r mesurau hyn.
Os ydych chi wedi gweld gyrru peryglus neu ddiofal, cewch gyflwyno lluniau a darnau ffilm i Ymgyrch Snap ar ein gwefan.
Onid ymarfer gwneud arian yw hwn?
Na. Defnyddir camerâu diogelwch i wella diogelwch ar y ffyrdd, nid er elw. Cyflwynir yr holl arian a geir drwy ddirwyon i Drysorlys Ei Fawrhydi, ac nid yw’n cael ei ddefnyddio gan GanBwyll nac awdurdodau lleol. Does dim cymhelliant i orfodi mewn mannau lle y byddwn yn canfod nifer fawr o droseddau. Ein safleoedd mwyaf llwyddiannus yw’r rhai hynny lle nad ydym yn canfod unrhyw droseddau oherwydd mae’n golygu mai dyna ble mae’r gydymffurfiaeth fwyaf. Gan hynny, dyna lle mae’r ffyrdd yn fwy diogel.
Pam fod beiciau yn cael fy ngoddiweddyd pan dwi'n gyrru ar 20mya?
Mae terfynau cyflymder yn Rheoliadau Traffig Ffyrdd a Rheolau'r Ffordd Fawr yn berthnasol i gerbydau modur yn unig ac nid i feiciau. Fodd bynnag, mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn nodi y dylai beicwyr fod yn ystyriol o ddefnyddwyr ffyrdd eraill.
A gawsoch chi unrhyw arian ychwanegol?
Darparodd Llywodraeth Cymru £570,000 ar gyfer sgyrsiau 20mya ychwanegol ar ymyl y ffordd drwy Ymgyrch Ugain yn 2023/24.Mae hyn yn ychwanegol at y grant rheolaidd gan Lywodraeth Cymru, sef £2,800,000 yn 2023/24 a 2024/25, ac mae’n cwmpasu’r holl weithgarwch GanBwyll arall.
Er mwyn parhau i gefnogi’r sgyrsiau ychwanegol sy’n cael eu cynnal, cefnogodd Llywodraeth Cymru gostau cyflogau timau Ymgyrch Ugain.
A wnaethoch chi orfodi mewn ardaloedd lle roedd yr arwyddion ffordd yn anghywir?
Na. Mae swyddogion lleihau anafiadau ar y ffyrdd GanBwyll wedi’u hyfforddi i adnabod y gofynion cyfreithiol o ran arwyddion. Cyn cychwyn gorfodi, maen nhw’n cwblhau nifer o wiriadau, gan gynnwys gwirio arwyddion ffyrdd. Os nad yw’r arwyddion ffyrdd yn briodol, ni fyddant yn gorfodi a byddant yn ei adrodd wrth yr Awdurdod Priffyrdd priodol i’w gywiro.
Ble ydych chi’n gorfodi 20mya?
Ystyrir gorfodi ar gyfer ardaloedd 20mya yn yr un modd â therfynau cyflymder eraill.
Rydym yn ystyried gorfodi lle mae gwrthdrawiadau wedi digwydd a arweiniodd at anafu rhywun, mae cymunedau wedi codi pryderon, neu mewn ardaloedd lle mae defnyddwyr ffyrdd bregus a cherbydau yn cymysgu, e.e. ger ysgolion neu gyfleusterau cymunedol.
Mae map yn dangos yr holl safleoedd gorfodi ar gael yma.
Sut ydw i’n gwybod ble fydd y faniau cyflymder?
Rydyn ni’n cyhoeddi map sy’n cynnwys ein holl leoliadau gorfodi posibl fan hyn. Gallai’n swyddogion lleihau anafiadau ar y ffyrdd fod yn gweithio yn unrhyw un o’r lleoliadau hyn, fodd bynnag, ni ddylech byth yrru’n gynt na’r terfyn cyflymder a nodir ar yr arwyddion. Does dim cyfyngiad o ran ble y gall swyddogion heddlu orfodi goryrru.
Mewn ardaloedd adeiledig, os ydych yn gweld goleuadau stryd, cofiwch fod hynny’n golygu 20mya, oni bai bod arwyddion yn nodi fel arall. Ceir rhagor o wybodaeth ar Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya: Cwestiynau Cyffredin | LLYW.CYMRU.
Beth ddigwyddodd i gamerâu sefydlog mewn ardaloedd 20mya?
Gosodir camerâu sefydlog lle mae'r risg o wrthdrawiad angheuol neu ddifrifol ar ei huchaf. Mae'r risg mewn ardaloedd 20mya gyda chamerâu sefydlog wedi'i hailwerthuso ac addaswyd y camerâu hyn i orfodi'r terfyn 20mya.
Anfonir llythyrau cyngor am y pedair wythnos gyntaf ar ôl i gamera sefydlog gael ei actifadu. Rydyn ni'n dweud wrth bobl am gamerâu'n cael eu hactifadu ymlaen llaw, drwy wefan GanBwyll a sianeli cyfryngau cymdeithasol partneriaid.
Gallwch weld rhestr o'r camerâu sefydlog ar ein map camerâu.
Pam ydych chi'n cynnig llythyrau cyngor ar gyfer camerâu sefydlog, ond nid camerâu symudol?
Rydym yn cydnabod bod y rhan fwyaf o bobl am gydymffurfio â’r terfyn cyflymder yn eu cymunedau. Os nad ydynt yn gwybod beth yw’r terfyn cyflymder, gallant basio camera sefydlog yn rheolaidd a thorri’r gyfraith yn ddiarwybod. Gallai cronni troseddau lluosog fel hyn arwain at golli eu trwydded.
Mae defnyddio llythyrau cyngor yn caniatáu sgwrsio yn gyntaf a dweud wrth bobl beth yw'r terfyn cyflymder cywir. Dim ond unwaith y cynigir hyn ac ni chaiff ei ailadrodd.
Mae'r system hon yn cefnogi ein nod o sicrhau cydymffurfedd â'r terfyn cyflymder am resymau diogelwch, a dim ond defnyddio gorfodaeth fel y dewis olaf.
Pam wnaethoch chi gynnig sgwrs am ddim i rai pobl ac erlyn eraill?
Rydym yn defnyddio’r pedwar dull canlynol i wella diogelwch ar y ffyrdd: Peirianneg, Addysg, Ymgysylltu a Gorfodaeth. Gorfodaeth yw'r opsiwn olaf bob amser.
Mae sgwrs bob amser yn cael ei blaenoriaethu i gefnogi newid ymddygiad. Defnyddir gorfodi pan fydd cyfiawnhad dros hynny a lle nad yw cynnal sgwrs yn briodol.
Fe wnaethom ddefnyddio Ymgyrch Ugain i gynnig sgwrs ymyl ffordd am ddim fel ein blaenoriaeth ar ôl i'r terfyn cyflymder diofyn newid. Defnyddiwyd gorfodi mewn ardaloedd lle roedd risg i ddiogelwch ar y ffyrdd ac nad oedd cynnal sgwrs yn briodol.
Beth ddigwyddodd ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu bod yn adolygu 20mya?
Sefydlodd Llywodraeth Cymru banel annibynnol i adolygu’r meini prawf eithriadau ar gyfer awdurdodau priffyrdd. Helpodd y meini prawf hyn awdurdodau priffyrdd i benderfynu a ddylai'r terfyn cyflymder ar ffordd fod yn 20mya.
Rhoddwyd meini prawf newydd i awdurdodau priffyrdd lleol ar ôl yr adolygiad, a arweiniodd at adolygu'r terfyn cyflymder ar rai ffyrdd. Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i osgoi sefydlu safleoedd gorfodi ar ffyrdd sy’n debygol o gael eu hadolygu.
Ceir rhagor o wybodaeth am yr adolygiad yn Adolygiad o eithriadau terfyn cyflymder diofyn o 20mya | LLYW.CYMRU
Dydw i ddim yn cytuno â’r terfyn cyflymder ar fy ffordd, felly pam ydych chi’n rhoi dirwyon?
Awdurdodau priffyrdd sy'n gosod y terfyn cyflymder. Os hoffech drafod newid y terfyn cyflymder ar ffordd, gofynnwn yn garedig i chi gysylltu â’ch awdurdod priffyrdd lleol.
Os ydym yn gorfodi ar ffordd, mae’n golygu bod risg i ddiogelwch ar y ffordd honno. Gallai hyn fod yn bryderon am oryrru, hanes o anafiadau ar y ffordd, neu ysgolion neu waith ffordd gerllaw. Mae hyn yn berthnasol i bob terfyn cyflymder.
Gallwch weld mwy o wybodaeth am osod terfynau cyflymder lleol yng Nghymru.
A allaf apelio os ydw i wedi fy nrysu gan y terfyn cyflymder diofyn?
Er eich diogelwch eich hun ac i gydymffurfio â'r gyfraith, mae'n rhaid i chi allu gyrru'ch cerbyd yn ddiogel, ymateb i beryglon posibl, ac ufuddhau i arwyddion traffig gorfodol bob amser.
Ni fyddwn yn gorfodi mewn ardaloedd lle mae arwyddion traffig yn amhriodol ac y gallent ddrysu pobl.
Os ydych chi’n ansicr a oes gan ffordd derfyn o 20mya, cofiwch: os gwelwch oleuadau stryd mewn ardal adeiledig, meddyliwch 20mya, oni bai fod arwyddion sy’n nodi fel arall. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya: cwestiynau cyffredin | LLYW.CYMRU