Ymgyrch Ugain
Mae GanBwyll a heddluoedd Cymru’n defnyddio ymagwedd sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu tuag at 20mya. Y flaenoriaeth yw hysbysu’r cyhoedd. Ddydd Llun 8 Ionawr 2024, lansiwyd ‘Ymgyrch Ugain’ er mwyn cyflwyno ymgysylltu ymyl ffordd ledled Cymru.
Bydd GanBwyll, Heddluoedd Cymru a Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru’n canolbwyntio ar ymgysylltu â chymunedau mewn ardaloedd lle mae’r terfyn cyflymder wedi newid o 30mya i 20mya. Y nod yw helpu gyrwyr i addasu i’r newid.
Mae Ymgyrch Ugain yn defnyddio offer monitro cyflymder i adnabod pobl sy’n teithio’n gynt na’r terfyn cyflymder, cyn i swyddogion heddlu stopio’r cerbyd a rhoi dewis i’r gyrrwr o ymgysylltu ymyl ffordd neu bwyntiau a dirwy. Tra bydd gyrwyr yn cael cynnig yr ymgysylltu am ddim fel dewis amgen, gallant wrthod, a fydd yna’n arwain at erlyniad. Ni fydd y rhai sy’n gyrru llawer cynt na’r terfyn cyflymder yn gymwys ar gyfer sesiwn ymgysylltu, a byddant yn cael eu herlyn.
Os yw gyrwyr yn dewis yr ymgysylltu, bydd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru’n rhoi cyflwyniad am ddim sy’n para tua 10 munud. Mae’n anelu i hysbysu pobl am y newid i’r terfyn cyflymder diofyn, y rhesymau dros y newid, a sut y gallant adnabod y ffyrdd mae’n berthnasol iddynt.
Mae sesiynau ymgysylltu eisoes wedi’u cynnal gan GanBwyll, Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru, Awdurdodau Lleol a Heddluoedd Cymru cyn lansio Ymgyrch Ugain. Bydd y timoedd arbennig newydd yn caniatáu ar gyfer cynnydd o ran gweithgarwch ymgysylltu.
Ystadegau Ymgyrch Ugain
Ion* | Chwef | Maw | Ebr | Mai | Meh | Gorff | Awst | Medi | Hyd | Tach | Rhag | Cyfan | |
Cyfanswm y cerbydau a gafodd eu monitro | 9,775 | 14,874 | 24,714 | 36,510 | 39,552 | 33,643 | 33,757 | 28,272 | 24,935 | 27,632 | 24,403 | 24,871 | 322,938 |
Cyfanswm a oedd yn gyrru’n gynt na’r terfyn cyflymder |
272 | 460 | 655 | 1,057 | 1,352 | 1,573 | 1,378 | 1,349 | 1,214 | 1,676 | 1,434 | 1,123 | 13,543 |
Cerbydau a oedd yn cydymffurfio (nifer) |
9,503 | 14,414 | 24,059 | 35,453 | 38,200 | 32,070 | 32,379 | 26,923 | 23,721 | 25,956 | 22,969 | 23,748 | 309,395 |
Cerbydau a oedd yn cydymffurfio (%) |
97% | 97% | 97% | 97% | 97% | 95% | 96% | 95% | 95% | 94% | 94% | 95% | 96% |
*Ffigurau mis Ionawr o’r 8fed ymlaen ar ôl lansio’r timoedd ymgysylltu.
Canlyniadau
Ion* | Chwef | Maw | Ebr | Mai | Meh | Gorff | Awst | Medi | Hyd | Tach | Rhag | Cyfan | |
Sesiwn Ymgysylltu (nifer) |
270 | 453 | 649 | 1,050 | 1,346 | 1,570 | 1,372 | 1,331 | 1,207 | 1,664 | 1,427 | 1,104 | 13,443 |
Sesiwn Ymgysylltu (%) |
99% | 98% | 99% | 99% | 99% | 99.8% | 99.6% | 98.6% | 99.4% | 99.2% | 99.5% | 98.3% | 99.3% |
Erlyniad (nifer) |
2 | 7 | 6 | 7 | 6 | 3 | 6 | 18 | 7 | 13 | 7 | 19 | 101 |
Erlyniad (%) |
1% | 2% | 1% | 1% | 1% | 0.2% | 0.4% | 1.4% | 0.6% | 0.8% | 0.5% | 1.7% | 0.7% |