Gwylio Cyflymder Cymunedol
Menter genedlaethol yw Gwylio Cyflymder Cymunedol lle mae aelodau cymunedau, mewn partneriaeth â’r heddlu, yn defnyddio dyfeisiau datgelu i fonitro cyflymder cerbydau yn lleol.
Mae’r gwirfoddolwyr yn hysbysu’r heddlu am yrwyr sy’n teithio’n gyflymach na’r cyfyngiad cyflymder gyda’r nod o addysgu gyrwyr i yrru’n arafach.
Os yw’r data yn profi bod gyrrwr yn anwybyddu rhybuddion dro ar ôl tro gall yr heddlu ei erlyn. Y nod yw:
- lleihau marwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd
- gwella ansawdd bywyd ar gyfer cymunedau lleol
- lleihau cyflymder cerbydau er mwyn cadw at y terfyn cyflymder
- cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o gyflymder amhriodol
Nid yw Gwylio Cyflymder Cymunedol ynddo’i hun yn arwain at erlyniad. Fodd bynnag, os canfyddir gyrrwr sy’n goryrru’n gyson drwy’r cynllun, gall yr heddlu ddefnyddio’r dystiolaeth i gymryd camau yn ei erbyn os bydd angen. Os oes mater goryrru cyffredin cyson pan fo angen gwelliannau i’r briffordd (e.e. twmpathau arafu), cysylltir â’r asiantaeth berthnasol.
Ymuno â Gwylio Cyflymder Cymunedol
Bydd gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant, a bydd staff tîm plismona cymdogaeth yn eu cefnogi.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y cynllun Gwylio Cyflymder Cymunedol, neu os hoffech wybod mwy am y cynllun, anfonwch e-bost atom