Pwrpas Ymgyrch Tutelage yw mynd i'r afael â'r miliwn tybiedig o gerbydau sy'n defnyddio ffyrdd y DU bob dydd heb yswiriant ac, er bod y ffigwr hwn wedi aros yr un peth am nifer o flynyddoedd, mae'n dechrau cynyddu yn awr. Yn ogystal â'r effaith mae gyrru heb yswiriant ei hun yn ei gael, mae cysylltiadau wedi cael eu profi rhwng gyrru heb yswiriant a mathau eraill o droseddau, llawer ohonyn nhw'n gysylltiedig â diogelwch pobl eraill, a phob un ohonyn nhw'n golygu cost economaidd-gymdeithasol sylweddol.
Mae Ymgyrch Tutelage yn gysyniad cymharol ddiweddar, sy’n deillio o syniad bod y mwyafrif o bobl heb yswiriant am resymau anfwriadol. Credwyd hefyd y gellid annog y niferoedd uchel o bobl a oedd heb yswiriant yn anfwriadol i unioni'r sefyllfa trwy ddefnyddio dull 'atgoffa', ac nad oedd er budd neb (y cyhoedd, yr heddlu, y system cyfiawnder troseddol na'r diwydiant yswiriant) i'w trin nhw fel troseddwyr yn yr amgylchiadau hyn.