Sawl camera sefydlog yn weithredol mewn ardaloedd 20mya
Mae nifer o gamerâu sefydlog ar draws De Cymru wedi’u haddasu i orfodi’r terfyn cyflymder 20mya. Bydd llythyrau cyngor yn cael eu hanfon am bedair wythnos ar ôl iddynt gael eu rhoi ar waith.
Yn dilyn y newid yn y terfyn cyflymder diofyn, rydym wedi parhau i adolygu ymddygiad gyrwyr a’r ymateb i’r newid, wrth ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru gydag Ymgyrch Ugain.
Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid ledled Cymru i ail-werthuso camerâu sefydlog. Mae’r camerâu hyn yn cael eu gosod lle mae’r risg o wrthdrawiad angheuol neu ddifrifol ar ei uchaf. Mae’r gwaith hwn wedi arwain at addasu nifer o gamerâu i orfodi’r terfyn cyflymder 20mya.
Bydd llythyrau cyngor yn cael eu hanfon am y pedair wythnos gyntaf ar ôl i gamera sefydlog gael ei roi ar waith. Mae’r llythyrau cyngor am gamerâu sefydlog yn ein galluogi i ymgysylltu’n gyntaf a hysbysu’r cyhoedd o’r terfyn cyflymder cywir. Dim ond unwaith y bydd y cyngor hwn yn cael ei gynnig ac ni fydd yn cael ei ailadrodd.
Drwy wneud hyn, rydym yn cefnogi ein nod o sicrhau cydymffurfiaeth â’r terfyn cyflymder am resymau diogelwch, a dim ond defnyddio gorfodaeth fel y dewis olaf.
Rydym yn cydnabod bod y rhan fwyaf o bobl am gydymffurfio â’r terfyn cyflymder yn eu cymunedau. Fodd bynnag, os nad oeddent yn ymwybodol o beth oedd y terfyn cyflymder, efallai eu bod yn pasio camera sefydlog yn rheolaidd ac yn torri’r gyfraith yn ddiarwybod ac felly mewn perygl o golli eu trwydded drwy wneud hynny.
Bydd y camerâu isod yn cael eu rhoi ar waith, a bydd llythyrau cyngor yn cael eu hanfon am y pedair wythnos gyntaf ar ôl y dyddiad a restrir ar gyfer eu rhoi ar waith.
Camera yn Weithredol – Dydd Mercher 24 Ebrill 2024
- Heol Llangyfelach – Heol Parkhill, Abertawe.
- Heol Llangyfelach – Heol Newydd, Abertawe.
- Heol Abertawe, Waunarlwydd, Abertawe.
- Rhodfa’r Gors – Ysgol Gymunedol, Abertawe.
- Rhodfa’r Gors – Teras Dewi, Abertawe.
- Heol y Fynwent, Porth, Rhondda Cynon Taf.
- A4061 Stryd Baglan, Treherbert, Rhondda Cynon Taf.
- Ffordd Gylchol y Gorllewin, Ael y Bryn, Caerdydd.
- Stryd Wellington – Stryd Wells, Caerdydd.
- Fitzalan Place, Caerdydd.
- Heol Pentwyn, Caerdydd.
- Heol Abertawe, Merthyr Tudful.
Mae rhagor o wybodaeth am ymgysylltu a gorfodi 20mya ar gael yma: 20mya a Ymgyrch Ugain