Mae 31 o gamerâu cyflymder yn mynd yn fyw i wella diogelwch ar y ffyrdd ar draws De Cymru
Mae 31 o gamerâu cyflymder yn mynd yn fyw i wella diogelwch ar y ffyrdd ar draws De Cymru.
Mae GanBwyll, Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, yn gweithio gydag awdurdodau priffyrdd Cymru i orfodi cynlluniau camerâu diogelwch. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys camerâu cyflymder sefydlog, camerâu golau coch a chamerâu cyflymder cyfartalog, yn ogystal â chamerâu gorfodi symudol.
Mae Heddlu De Cymru yn cynnal y Swyddfa Docynnau Ganolog, sy'n gweinyddu troseddau o'r cynlluniau hyn ar draws Canolbarth a De Cymru.
Oherwydd dyfodiad technoleg ddigidol a'r galw ar adrannau TG i osod sawl math o gamerâu, roedd angen datblygiad a buddsoddiad sylweddol mewn systemau. Cymeradwywyd adnoddau ychwanegol gan y tîm staff TG i gynorthwyo gyda'r gwaith datblygu ac i ddod â'r holl gynlluniau hyn ar-lein.
Mae'r adnoddau ychwanegol hyn yn golygu, o ddydd Llun, 26 Mehefin, y bydd 31 o gamerâu ar draws De Cymru yn dechrau prosesu troseddau. Mae'r camerâu hyn yn cynnwys cymysgedd o gamerâu cyflymder a chamerâu ‘cyflymder wrth olau gwyrdd’ wrth oleuadau traffig. Mae gan y camerâu amlswyddogaethol hyn y gallu i ddal troseddau golau coch a goryrru.
Mae cyflymder yn cyfrannu'n fawr at wrthdrawiadau ar ein ffyrdd. Bydd y cynlluniau ychwanegol hyn yn gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb ac yn gwella ymddygiad y lleiafrif o yrwyr sy’n torri’r terfyn cyflymder.
Lleoliad y Camera |
Math o Gamera |
Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol yr A48 tua'r gorllewin |
Cyflymder |
A4061 Stryd Baglan |
Cyflymder |
A470 Rhodfa'r Gogledd |
Cyflymder |
A48 Rhodfa'r Gorllewin |
Cyflymder wrth Olau Gwyrdd |
Heol Peniel Green |
Cyflymder |
Heol Pentwyn |
Cyflymder |
Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol yr A48 tua'r dwyrain |
Cyflymder |
A472 Pont-y-pŵl |
Cyflymder |
A4102 Heol Abertawe, Merthyr Tudful |
Cyflymder |
Heol y Fynwent, Porth, Rhondda Cynon Taf |
Cyflymder |
A470 Manor Way |
Cyflymder wrth Olau Gwyrdd |
Gors Avenue |
Cyflymder |
Heol Caerfyrddin – Stryd Hall |
Cyflymder |
Heol y Mwmbwls, Blackpill |
Cyflymder |
Heol Llangyfelach – Heol Newydd |
Cyflymder |
Heol Llangyfelach – Heol Parkhill |
Cyflymder |
Heol Pantmawr / Rhodfa'r Gogledd |
Cyflymder wrth Olau Gwyrdd |
Fitzalan Place |
Cyflymder wrth Olau Gwyrdd |
Heol Casnewydd / Rhodfa Claremont |
Cyflymder wrth Olau Gwyrdd |
Stryd Wellington – Stryd Wells |
Cyflymder |
Bryn Rhiwbeina |
Cyflymder |
Ffordd Gylchol y Gorllewin – Ael y Bryn |
Cyflymder |
Heol Dyfatty |
Cyflymder wrth Olau Gwyrdd |
Heol Ravenhill – Heol Caerfyrddin |
Cyflymder wrth Olau Gwyrdd |
Heol Caerfyrddin (ger Wicks) |
Cyflymder |
Heol Rhyd y Penau |
Cyflymder |
B4295 Heol Abertawe, Waunarlwydd |
Cyflymder |
Heol Caerfyrddin (ger Cave Street) |
Cyflymder |
Heol Caerfyrddin – Heol yr Orsaf |
Cyflymder wrth Olau Gwyrdd |
Heol Caerfyrddin – Heol Ravenhill |
Cyflymder wrth Olau Gwyrdd |
Rhodfa’r Gors |
Cyflymder |