Bydd 19 o safleoedd gorfodi symudol
Yn dilyn y newid yn y terfyn cyflymder diofyn, rydym wedi parhau i adolygu ymddygiad gyrwyr ac ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru. Byddwn yn ystyried gorfodi lle mae gwrthdrawiadau wedi digwydd a arweiniodd at rywun yn cael ei anafu, lle mae cymunedau wedi codi pryderon, neu mewn ardaloedd lle mae defnyddwyr ffyrdd bregus a cherbydau yn cymysgu, e.e. ger ysgolion neu gyfleusterau cymunedol.
Bydd 19 o safleoedd gorfodi symudol yn cael eu cyflwyno ar draws Sir Gaerfyrddin ar ôl i bryderon gael eu codi gan gymunedau. Mae’r safleoedd hyn wedi’u hasesu gan ddefnyddio ein meini prawf gorfodi a’u dadansoddi i gael tystiolaeth o risg diogelwch y ffyrdd.
Rydym hefyd wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i sicrhau nad yw'r lleoliadau hyn yn cael eu hystyried fel rhan o'r adolygiad o eithriadau 20mya.
Bydd gorfodi yn cael ei gyflwyno yn y lleoliadau canlynol o ddydd Mawrth 7 Mai.
- Heol Llethri, Felin-foel
- B4309 Meinciau
- B4306 Heol y Banc, Bancffosfelen
- Ffordd Glynhir, Llandybïe
- A485 Rhydargaeau
- Cwmgwili, Sir Gaerfyrddin
- A484 Cwm-ffrwd
- Heol y Hendre, Tŷ-croes / Capel Hendre
- B4310 Nantgaredig
- A483 Heol Llandeilo, Llandybïe
- B4302 Talyllychau
- A482 De Cwm-ann
- Heol y Llew Du, Cross Hands – Gorslas
- B4302 Talyllychau
- A476 Heol Llan-non, Y Tymbl Uchaf
- B4310 Porth-y-rhyd
- B4309 Pump-hewl
- A4069 Stryd Lydan
- Eglwys Saron, Saron