Amryfal cynlluniau camerâu diogelwch yn gorfodi eto

 

Amryfal cynlluniau camera diogelwch yn gorfodi eto o ddydd Mercher 13 Tachwedd.

 

Gosodir camerâu sefydlog lle mae’r perygl o wrthdrawiad ar ei uchaf er mwyn annog pobl i yrru o fewn y terfynau cyflymder, gan sicrhau bod pawb yn fwy diogel ar ein ffyrdd. Yr ydym wedi bod yn gweithio gydag Awdurdodau Priffyrdd ledled Cymru gan eu bod nhw wedi gosod arwyddion ffyrdd a rhoi Gorchmynion Rheoleiddio Traffig ar waith. Ar ôl cwblhau’r gwaith hwn mewn sawl ardal, bydd y camerâu canlynol yn ailddechrau gorfodi.

 

  • A470 Manor Way, Caerdydd
  • A470 Rhodfa'r Gogledd, Caerdydd
  • A48 Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd
  • A4054 Heol Caerdydd, Treharris - Gogledd
  • A4054 Heol Caerdydd, Treharris - De

 

Bydd llythyrau cyngor yn cael eu hanfon am y bedair wythnos gyntaf ar ôl rhoi’r camera ar waith. Mae'r llythyrau hyn yn ein galluogi i ymgysylltu'n gyntaf a hysbysu'r cyhoedd o'r terfyn cyflymder cywir. Dim ond unwaith y bydd y llythyr cyngor yn cael ei gynnig ac ni fydd yn cael ei gynnig eilwaith.

Rydym yn cydnabod bod y rhan fwyaf o bobl am gydymffurfio â’r terfyn cyflymder yn eu cymunedau.  Fodd bynnag, os nad oeddent yn ymwybodol o beth oedd y terfyn cyflymder, efallai eu bod yn pasio camera sefydlog yn rheolaidd ac yn torri’r gyfraith yn ddiarwybod ac felly mewn perygl o golli eu trwydded drwy wneud hynny.

Mae'r dull hwn yn cefnogi ein nod o sicrhau cydymffurfiaeth â’r terfyn cyflymder am resymau diogelwch, a dim ond defnyddio gorfodaeth fel y dewis olaf.