Bydd 7 o safleoedd gorfodi symudol

 

Yn dilyn y newid yn y terfyn cyflymder diofyn, rydym wedi parhau i adolygu ymddygiad gyrwyr ac ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru. Byddwn yn ystyried gorfodi lle mae gwrthdrawiadau wedi digwydd a arweiniodd at rywun yn cael ei anafu, lle mae cymunedau wedi codi pryderon, neu mewn ardaloedd lle mae defnyddwyr ffyrdd bregus a cherbydau yn cymysgu, e.e. ger ysgolion neu gyfleusterau cymunedol.

Bydd 7 o safleoedd gorfodi symudol yn cael eu cyflwyno ar draws Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ar ôl i bryderon gael eu codi gan gymunedau. Mae’r safleoedd hyn wedi’u hasesu gan ddefnyddio ein meini prawf gorfodi a’u dadansoddi i gael tystiolaeth o risg diogelwch y ffyrdd.

Rydym hefyd wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i sicrhau nad yw'r lleoliadau hyn yn cael eu hystyried fel rhan o'r adolygiad o eithriadau 20mya.

Bydd gorfodi yn cael ei gyflwyno yn y lleoliadau canlynol o ddydd Gwener 6 Medi.

  • B4314 Narberth
  • B4314 Coxhill, Narberth
  • A476 Heol Cross Hands, Gorslas
  • A484 Pentre Morgan
  • B4310 Llanddarog
  • B4309 Heol Llanelli, Pontyates
  • B4333 Hermon