Gorfodi Newydd | Heol Penrhys
Mae GanBwyll yn gweithio gydag awdurdodau priffyrdd yng Nghymru i orfodi cynlluniau camerâu diogelwch.
Mae camerâu sefydlog yn cael eu gosod lle mae’r perygl o wrthdrawiad ar ei uchaf ac yn annog pobl i yrru o fewn y terfynau cyflymder, gan sicrhau bod pawb yn fwy diogel ar ein ffyrdd.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda Rhondda Cynon Taf gan eu bod wedi gosod arwyddion ffyrdd a rhoi Gorchmynion Rheoleiddio Traffig ar waith. Ar ôl cwblhau’r gwaith hwn mewn sawl ardal, bydd y camerâu canlynol yn ailddechrau gorfodi eto o ddydd Llun 13 Ionawr.
- Heol Penrhys, Ystrad (Dwyrain)
- Heol Penrhys, Ystrad (Orllewin)
Bydd llythyrau cyngor yn cael eu hanfon am y bedair wythnos gyntaf ar ôl rhoi’r camera ar waith. Mae'r llythyrau hyn yn ein galluogi i ymgysylltu'n gyntaf a hysbysu'r cyhoedd o'r terfyn cyflymder cywir. Dim ond unwaith y bydd y llythyr cyngor yn cael ei gynnig ac ni fydd yn cael ei gynnig eilwaith.
Rydym yn cydnabod bod y rhan fwyaf o bobl am gydymffurfio â’r terfyn cyflymder yn eu cymunedau. Fodd bynnag, os nad oeddent yn ymwybodol o beth oedd y terfyn cyflymder, efallai eu bod yn pasio camera sefydlog yn rheolaidd ac yn torri’r gyfraith yn ddiarwybod ac felly mewn perygl o golli eu trwydded drwy wneud hynny.
Mae'r dull hwn yn cefnogi ein nod o sicrhau cydymffurfiaeth â’r terfyn cyflymder am resymau diogelwch, a dim ond defnyddio gorfodaeth fel y dewis olaf.