Carcharu dyn am wyth mis ar ôl enwi gyrrwr diniwed ar ddwy ddirwy oryrru
Dyn yn cael ei garcharu am wyth mis ac yn cael gwaharddiad gyrru am 16 mis ar ôl enwebu gyrrwr arall yn gelwyddog am ddwy ddirwy oryrru.
Cafodd Diyar Wahab Ali, dyn 30 oed o ardal Sir Benfro, ei recordio yn goryrru ar 21 Ebrill 2021 ac eto mewn cerbyd gwahanol ar 27 Chwefror 2022. Ar ôl derbyn Hysbysiadau o Erlyniad Bwriadedig am y troseddau fel ceidwad y cerbydau, enwebodd Ali yrrwr arall yn gelwyddog ar y ddau achlysur, heb iddo wybod.
Codwyd pryderon gan y Swyddfa Docynnau Ganolog gan fod gan y gyrrwr a enwyd dros 30 o droseddau gyrru yn gysylltiedig ag ef o wahanol leoliadau ar draws y DU. Dechreuodd Swyddog Ymholiadau GanBwyll ymchwiliad a chanfu fod gan y gyrrwr hwn a enwyd bum trwydded yrru wahanol. Roedd y trwyddedau hyn i gyd ar gyfer cyfeiriadau gwahanol ac roedd wedi cronni digon o bwyntiau i'w wahardd rhag gyrru.
Roedd yr enwebiadau ffug niferus hefyd wedi achosi i'r gyrrwr diniwed hwn a enwyd dderbyn llythyrau gan gasglwyr dyledion.
Yn sgil ymholiadau helaeth, daeth o hyd i Diyar Wahab Ali. Gwadodd fod ganddo unrhyw wybodaeth am y digwyddiadau yn ei gyfweliad gyda'r heddlu.
Yn y pen draw, gwnaeth yr ymchwiliad profi bod Ali a'i gerbydau wedi bod yn yr ardaloedd ar adeg y ddwy drosedd oryrru. Dangosodd hefyd fod y gyrrwr a enwyd wedi bod yn Ne-ddwyrain Lloegr.
Ymddangosodd Ali yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth, 14 Tachwedd 2023, lle plediodd yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Cafodd ei ddedfrydu i wyth mis yn y carchar a'i wahardd rhag gyrru am 16 mis. Pe bai wedi rhoi ei fanylion yn gywir, byddai'r drosedd gyntaf wedi arwain at gwrs ymwybyddiaeth cyflymder a'r ail mewn tri phwynt a dirwy o £100.