Gorfodi Hwyr y Nos
Rydym yn gweithio gyda Heddlu Gwent i fynd i’r afael â gyrru gwrthgymdeithasol a pheryglus.
Codwyd pryderon gennych ynghylch “cyfarfodydd rasio ceir” a drefnwyd yn ardal Heddlu Gwent, gan arwain at yrru gwrthgymdeithasol a allai fod yn beryglus ar y priffyrdd rhwng trefi.
Mae cyflymder gormodol a gyrru peryglus yn cynrychioli dau o’r ‘Pum Trosedd Angheuol’, sef y prif achosion marwolaethau neu anafiadau difrifol ar ein ffyrdd.
Mae’r data diweddaraf am wrthdrawiadau ar y ffyrdd yn dangos bod 16 o bobl wedi’u lladd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni, 188 o bobl wedi’u hanafu’n ddifrifol, a 607 wedi dioddef mân anafiadau ar ffyrdd Cymru. Er bod hyn 17% yn llai o bobl na'r chwarter blaenorol, mae gyrru gwrthgymdeithasol a pheryglus yn rhoi pawb ar y ffordd mewn perygl.
Rydym yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gwent i fynd i’r afael â’r mater, ochr yn ochr â swyddogion cefnogi heddlu’r ffyrdd. Bydd gwybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i orfodi cyflymder ac yn llywio patrolau’r heddlu. Bydd y dull hwn ar sail data yn sicrhau bod ein faniau gorfodi symudol yn y lle cywir, ar yr amser cywir.
Bydd y gwaith hwn yn amharu ar yr ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac yn cadw pobl ar ffyrdd Gwent yn fwy diogel.