Bydd dulliau gorfodi symudol yn dechrau ar yr M4
Ar 23 Ionawr 2023, bydd dulliau gorfodi symudol yn dechrau ar yr M4, rhwng cyffordd 33 a chyffordd 34, yn dilyn cynnydd mewn nifer o wrthdrawiadau a achosir gan gyflymder.
Mae GanBwyll yn gorfodi yn y lle cywir, ar yr amser cywir, am y rheswm cywir i annog cydymffurfiaeth â'r terfyn cyflymder ac er mwyn lleihau'r risg o wrthdrawiadau, anafiadau, a marwolaethau ar ffyrdd Cymru. Mae sut a phryd y byddwn yn gweithredu'r camerâu yn dibynnu ar hanes gwrthdrawiadau a phryderon diogelwch ffyrdd ym mhob lleoliad.
Yn dilyn cynnydd mewn gwrthdrawiadau a achosir gan gyflymder, cynhaliwyd tri arolwg cyflymder mewn lleoliadau gwahanol ar yr M4. Mesurodd y tri arolwg gyfanswm o 213,371 o gerbydau, gan ddarganfod bod 70,713 o yrrwyr yn teithio dros y terfyn cyflymder, gan gynnwys 6,109 yn teithio ar 85 milltir yr awr neu fwy.
Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GoSafe: Mae cyflymder yn cyfrannu'n enfawr at wrthdrawiadau ar ein ffyrdd ac os bydd gwrthdrawiad yn digwydd ar gyflymder uchel, yn aml iawn bydd hyn yn arwain at ddamwain ddifrifol fydd yn cael effaith drychinebus ar deuluoedd.
Bydd cyflwyno'r camau gorfodi yn y lleoliadau hyn yn gwella cydymffurfiaeth â'r terfyn cyflymder ac yn helpu i sicrhau bod pobl yn fwy diogel ar ein ffyrdd.