Canlyniad Llys | Dirwy o £1620 i ddyn ar ol slaesio teiar fan GanBwyll

 

Cafwyd Charles Richards, o Nant-y-glo, Bryn-mawr, yn euog yn Llys Ynadon Caerdydd o achosi difrod troseddol i gerbyd heddlu.

Am oddeutu 4.45pm ddydd Sul, 9 Ebrill 2023, roedd Richards yn teithio ar hyd yr A4106 ym Mhorthcawl pan yrrodd o flaen fan GanBwyll a dod i stop. Gadawodd ei gar a gwelwyd ef yn cerdded tuag at y fan gyda'r hyn a oedd yn ymddangos yn gyllell bob pwrpas felen. Slaesiodd deiar blaen y fan GanBwyll, cyn dychwelyd yn syth at ei gar a gyrru i ffwrdd.

Cafodd y digwyddiad ei recordio gan deledu cylch cyfyng o ansawdd uchel a osodwyd ar y cerbyd GanBwyll a chafodd Mr Richards ei adnabod. Ddydd Sadwrn, 22 Ebrill 2023, cafodd y dyn 38 oed ei arestio a’i gyhuddo o achosi difrod troseddol i gerbyd heddlu.

Ymddangosodd Mr Richards yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau, 11 Mai 2023. Fe’i cafwyd yn euog a bu’n rhaid iddo dalu dirwy o £1,066, gordal dioddefwyr o £426, costau llys o £85 a £43 mewn digollediad.