Gyrrwr peryglus wedi’i wahardd ar ôl bron ag achosi gwrthdrawiad penben

  

Ar 9 Medi 2023, gwelwyd gyrrwr Land Rover arian yn goddiweddyd dau gar yn beryglus wrth iddo adael cylchfan ar yr A483 ger Llandysilio, Powys. Cyflymodd y gyrrwr i hyd at ryw 82mya wrth i dri cherbyd ddod o’r cyfeiriad arall.

Roedd cyfle i’r gyrrwr dynnu’n ôl rhag goddiweddyd ond aeth ymlaen i gyfeiriad y traffig a oedd yn dod tuag ato. Roedd lluniau dashgam y tu mewn i un o’r cerbydau yn dangos y traffig a oedd yn dod o’r cyfeiriad arall yn symud i osgoi mynd yn benben mewn gwrthdrawiad, ac osgoi anafiadau angheuol o bosib, neu rai a allai newid bywyd.

Anfonwyd y ffilm dashgam hon i GanBwyll trwy Ymgyrch Snap. Gall timau ymroddedig Ymgyrch Snap ymchwilio i droseddau gyrru sy’n amrywio o yrru’n beryglus, gyrru’n ddiofal, defnyddio ffôn symudol wrth yrru, peidio â gwisgo gwregys diogelwch, gyrru trwy olau coch neu dros linellau gwyn solet, a pheidio â bod â rheolaeth briodol ar gerbyd.

Dechreuodd GanBwyll ymchwiliad i’r digwyddiad, gan nodi mai’r gyrrwr oedd Stephen Hayward, 70 oed, o Great Barrow, Caer. Cafodd Hayward ei gyfweld gan swyddog GanBwyll a chyfaddefodd mai ef oedd y gyrrwr. Mynnodd cyfreithiwr Hayward nad oedd y symudiad yn beryglus ac mai dim ond y drosedd leiaf o yrru’n ddiofal yr oedd wedi’i chyflawni.

Cafodd y digwyddiad ei gyfeirio’n syth i’r llys a chafodd ei glywed yn Llys Ynadon y Trallwng ddydd Llun 22 Gorffennaf 2024. Cafwyd Hayward yn euog o yrru’n beryglus. Cafodd ei wahardd rhag gyrru am 12 mis, a rhaid iddo basio prawf gyrru estynedig yn dilyn y gwaharddiad. Rhaid iddo hefyd dalu dirwy o £969, £775 o gostau llys a gordal dioddefwr o £398