Gyrrwr yn cael dirwy o £25,646 am 34 o droseddau goryrru gwahanol

Mae gyrrwr wedi cael 18 o bwyntiau, cyfanswm o £25,646 o ddirwyon, a’i gwahardd rhag gyrru am 18 mis ar ôl ei chael yn euog o 34 o droseddau goryrru gwahanol.

Rhwng Awst a Hydref 2021, cyflawnodd Nissan X Trail gyda phlatiau Gwyddelig 34 o droseddau goryrru yn ardal Heddlu De Cymru. Dechreuwyd ymchwiliad gan GanBwyll, oedd yn cynnwys rhannu manylion y cerbyd. Cafodd Swyddogion Ymholiadau Maes GanBwyll eu hysbysu o'r ffaith bod y cerbyd wedi cael ei stopio am arddangos platiau ffug. Cafodd ei atafaelu wedyn gan nad oedd yswiriant ganddo, ac nid oedd gan y gyrrwr drwydded.

Roedd hyn yn caniatáu i GanBwyll sefydlu’r cofrestriad a chyfeiriad cywir ar gyfer y cerbyd. Defnyddiwyd yr wybodaeth hon ganddynt i anfon pob un o'r 34 o lythyrau Hysbysiad o Erlyniad Bwriadedig at y perchennog, Ann Marie Cash, o ardal Caerdydd.

Ar ôl derbyn dim ymateb i'r llythyrau, atgyfeiriwyd pob un o'r 34 o droseddau i Lys Ynadon Caerdydd. Cysylltodd Ann Marie Cash â’r llys a phlediodd yn euog i’r troseddau, ond fe’i gwahoddwyd i fynychu oherwydd y posibilrwydd o waharddiad.

Ni fynychodd, a gwrandawyd yr achos yn ei habsenoldeb yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun, 23 Mai 2022. Profwyd pob un o’r 34 o droseddau, gyda phob un yn cario dirwy o £660 gyda chostau llys a gordaliadau dioddefwyr.

Ni chafodd y troseddau eu cydgrynhoi a gorchmynnodd y llys fod pob trosedd yn cael ei thalu. Roedd hyn yn golygu mai cyfanswm y costau oedd dirwy o £21,780, costau o £3,610, a gordal dioddefwyr o £256. Yn ogystal â hynny, cafodd Cash 18 o bwyntiau a gwaharddiad rhag gyrru am 18 mis.