Gyrrwr yn cael dirwy o £46,880 ar ôl ei gael yn euog o 58 o droseddau goryrru

 

Mae gyrrwr wedi cael dirwy o £46,880 a’i wahardd rhag gyrru am 36 mis ar ôl ei gael yn euog o 57 o droseddau goryrru gwahanol ac un trosedd golau coch.

Rhwng 19 Chwefror a 14 Ebrill 2022, cyflawnodd Volkswagen Beetle glas a oedd yn cael ei yrru gan John Kelly, dyn 29 oed o Lanrhymni, 58 o droseddau gwahanol yn ardal Heddlu De Cymru. Dim ond ar draws pedwar lleoliad camera y digwyddodd y troseddau hyn, ac roedd pob un ohonynt yn barthau 30mya. Cyflymder cyfartalog y troseddau oedd 45mya, a'r drosedd uchaf oedd 69mya.

Dechreuwyd ymchwiliad gan GanBwyll, a rhannwyd manylion y cerbyd yn genedlaethol. Ddydd Iau, 14 Ebrill 2022, hysbyswyd Swyddogion Ymholiadau Maes GanBwyll bod y cerbyd wedi cael ei stopio yn ardal Swydd Stafford, lle cafodd ei atafaelu am nad oedd yswiriant ganddo.

Roedd yr wybodaeth a roddwyd i GanBwyll gan swyddogion yn Heddlu Swydd Stafford yn caniatáu iddynt adnabod ceidwad presennol y cerbyd a’i gyfeiriad. Yna anfonwyd 58 o lythyrau Hysbysiad o Erlyniad Bwriadedig at y gyrrwr, John Kelly.

Ar ôl peidio â chael ymateb, atgyfeiriwyd pob un o'r 58 trosedd i'r llys. Gwrandawyd yr achos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener, 30 Medi 2022. Profwyd y 58 o droseddau, a gorchmynnwyd Mr Kelly i dalu cyfanswm o £46,880. Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am 36 mis a chafodd 48 o bwyntiau ar ei drwydded.