Rhoddwyd 8 pwynt cosb i yrrwr a dirwy o £1,034 ar ôl iddo ddisgleirio pen laser ar fan GanBwyll
Bore dydd Iau, 21 Medi 2023, roedd Swyddog Lleihau Anafiadau GanBwyll yn monitro cyflymderau o fan symudol ar yr A40 ger Caerfyrddin. Cafodd ei orfodi i droi ei lygaid pan ddechreuodd golau laser gwyrdd cryf chwyddo trwy ffenestr y camera.
Mae lluniau o'r camera cyflymder yn dangos yn glir golau laser gwyrdd yn disgleirio o sedd gyrrwr VW Passat arian a oedd yn agosáu. Roedd y gyrrwr yn defnyddio pen laser i dargedu'r camera wrth iddo yrru ar hyd y ffordd ddeuol.
Gwelwyd bod y laser hefyd yn effeithio ar yrrwr fan o flaen y VW am iddo adlewyrchu sawl gwaith oddi ar ddrych adain y fan.
Yn ôl ymchwiliad pellach, y gyrrwr oedd Shaun Dyer, dyn 48 oed o ardal Plymouth. Cyfwelwyd Dyer ym mis Hydref 2023 a chyfaddefodd y drosedd o yrru heb ofal a sylw dyladwy.
Methodd ag ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Mercher, 22 Mai a gwrandawyd yr achos yn ei absenoldeb. Cafodd 8 pwynt cosb a dirwy o £660, yn ogystal â £264 o ordal dioddefwr a £110 o gostau llys.