Sbotolau ar Safleoedd | Ffordd Chepstow, Llansoy
Roedd trigolion Ffordd Chepstow, Llansoy wedi cysylltu â GanBwyll gyda phryderon ynghylch goryrru yn eu cymuned. Roedd y cyfyngder cyflymder ar y ffordd hon wedi'i ostwng unwaith yn barod i 30mya o 40mya yn dilyn pryderon diogelwch a godwyd gan y trigolion; fodd bynnag, er gwaethaf y gostyngiad trwy'r pentref, roedd cerbydau'n dal i deithio ar gyflymder ymhell uwchlaw'r cyfyngder.
Sefydlwyd y safle ym mis Tachwedd 2020 ar ôl i arolwg cyflymder cychwynnol nodi cyflymder cyfartalog o 33mya gyda 60% o gerbydau yn teithio ar gyflymder dros y cyfyngder. Roedd 8% o gerbydau yn teithio ar gyflymder uwch na 45mya.
Er na chofnodwyd unrhyw anafiadau ar y ffordd dros y tair blynedd flaenorol, barnwyd bod digon o ffactorau risg i gyfiawnhau gorfodi ar y safle.
Mae'r safle wedi'i leoli ym mhentref Llansoy sy'n gymuned wledig wedi'i lleoli ar ffordd prysur sy'n cysylltu â'r A449. Mae yna nifer o ffermydd yn yr ardal sy'n arwain at gerbydau amaethyddol a HGVs sy'n symud yn araf yn defnyddio'r ffordd.
Mae'r llwybrau troed yn yr ardal yn ysbeidiol, gan beri i gerddwyr gerdded yn y ffordd. Mae nifer o bwyntiau mynediad i gerbydau o fewn ffiniau'r safle sy'n arwain at adeiladau preswyl, fferm a masnachol a safle bws yn y pentref.
Bydd arolygon cyflymder pellach yn cael eu cynnal ar y safle yn 2021 i werthuso a yw gorfodi yn cael effaith. Yn y cyfamser bydd gorfodaeth reolaidd yn digwydd ar y safle a bydd yn parhau nes bod y cyflymderau ar lefel dderbyniol.