Sbotolau Ar Safleoedd | Ffordd Ty Draw, Caerdydd
Ar y 1af o Orffennaf, 2021 daeth safle gorfodi newydd yn weithredol ar Ffordd Ty Draw, Y Rhath, Caerdydd ar ôl i drigolion godi pryderon ynghylch cerbydau yn goryrru ar hyd y ffordd hon.
Cynhaliwyd arolwg cyflymder ar hyd y ffordd 20mya ym mis Mai 2021. Dangosodd canlyniadau'r arolwg bod 75% o gerbydau yn teithio ar gyflymderau yn uwch na'r cyfyngiad cyflymder, gyda chyflymder cyfartalog o 23mya. Dangosodd yr arolwg hefyd fod 15% o gerbydau yn teithio ar gyflymder o 29mya neu fwy, gyda 2.7% o gerbydau yn teithio ar gyflymder dros 35mya.
Yn ystod y tair blynedd flaenorol bu dau wrthdrawiad ar y ffordd hon, gyda 3 person yn dioddef mân anafiadau; gan gynnwys un plentyn ac un cerddwr.
Mae Tŷ Draw Road wrth ymyl Tir Hamdden y Rhath gyda thai preswyl ar ochr ogleddol y ffordd a'r parc ar yr ochr ddeheuol. Mae'r ffordd yn cael ei chroesi'n rheolaidd gan blant a theuluoedd sy'n defnyddio'r cyfleusterau yn y parc.
Mae cerbydau sydd wedi'u parcio'n gyfreithlon ar yr ochr ogleddol yn cyfyngu lled y ffordd a gwelededd cerddwyr sy'n croesi'r ffordd. Oherwydd y peryglon ar y ffordd hon gostyngwyd y cyfyngiad cyflymder i 20mya a gwnaed gwaith peirianneg i arafu'r traffig.
Er gwaethaf y mesurau hyn, mae modurwyr yn dal i oryrru a phenderfynwyd cychwyn gorfodi ar y safle er mwyn sicrhau cydymffurfiad â'r cyfyngiad.