Mae GanBwyll a heddluoedd Cymru’n annog pobl i wisgo eu gwregys
O 5 – 25 Mehefin, bydd GanBwyll a heddluoedd Cymru’n tynnu sylw at bwysigrwydd gwregysau diogelwch, â’r nod o leihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd a’u hanafu drwy beidio â’u gwisgo.
Mae eleni’n nodi 40 mlynedd ers anghyfreithloni teithio ym mlaen car heb wisgo gwregys diogelwch. Er gwaethaf hyn, mae pobl dal yn teithio ar ein ffyrdd heb eu gwisgo. Yn ystod y chwe blynedd diwethaf, mae nifer y bobl sy’n cael eu lladd mewn ceir pan nad ydynt yn gwisgo gwregys diogelwch wedi parhau’n uwch nag 20% yn gyson.
Yn 2020, nid oedd 23% o’r bobl a laddwyd mewn ceir yn gwisgo gwregys diogelwch. Mae data’n dangos nad oedd 28% o’r dynion a fu farw’n gwisgo gwregys, sydd bron ddwywaith yn fwy na’r 16% o fenywod.
Mae’n hollbwysig eich bod chi’n gwisgo gwregys diogelwch bob amser, waeth pa mor fyr neu gyfarwydd yw taith. Gallech fod yn rhan o wrthdrawiad unrhyw adeg o’r dydd a gallai treulio ychydig eiliadau’n rhoi eich gwregys diogelwch amdanoch arbed eich bywyd.
Bydd yr heddlu a GanBwyll yn gweithio’n agos gyda’u partneriaid i addysgu pobl am bwysigrwydd gwregysau diogelwch wrth eu hannog i newid eu hymddygiad a’u hagwedd tuag at eu gwisgo.
Cynhelir ymgyrchoedd er mwyn darparu addysg ar ochr y ffordd. Bydd gweithgarwch gorfodi hefyd yn cael ei gynnal er mwyn targedu’r lleiafrif sy’n gwrthod cydymffurfio â chyfreithiau gwregysau diogelwch, gan roi eu hunain ac eraill mewn perygl.
Gallech dderbyn dirwy o £100 yn y fan a’r lle os na fyddwch chi’n gwisgo gwregys diogelwch fel y dylech, neu uchafswm dirwy o £500 os fyddwch chi’n cael eich erlyn.