Canlyniad y Llys | Trosedd Cyflymder Uchel 20mya
Cafodd gyrrwr chwe phwynt cosb ar ei drwydded a dirwyon o £853 i gyd am yrru 44mya ar hyd ffordd 20mya.
Cafodd y drosedd ei recordio ar yr A5104 ger Pontybodkin ddydd Sul, 14 Ebrill 2023. Recordiwyd y cerbyd yn teithio ar gyflymder o 44mya gan gamera diogelwch sefydlog.
Roedd cyflymder y drosedd yn golygu nad oedd y gyrrwr yn gymwys ar gyfer cwrs ymwybyddiaeth cyflymder neu gosb benodedig,ac anfonwyd y mater yn syth i'r llys yn lle.
Gwrandawyd ar yr achos yn Llys Ynadon Wrecsam ddydd Mawrth, 18 Mehefin 2024. Cafwyd y gyrrwr yn euog o'r drosedd a rhoddwyd 6 phwynt cosb ar ei drwydded yrru.Cafodd hefyd ddirwy o £531, ac fe’i gorfodwyd i dalu £110 mewn costau llys a gordal dioddefwr o £212.