Ymgyrch Ugain

  

Mae timoedd ymgysylltu ymyl ffordd wedi’u lansio ledled Cymru.

Mae GanBwyll a heddluoedd Cymru’n defnyddio ymagwedd sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu tuag at 20mya. Y flaenoriaeth yw hysbysu’r cyhoedd. Ddydd Llun 8 Ionawr 2024, lansiwyd ‘Ymgyrch Ugain’ er mwyn cyflwyno ymgysylltu ymyl ffordd ledled Cymru.

Bydd GanBwyll, Heddluoedd Cymru a Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru’n canolbwyntio ar ymgysylltu â chymunedau mewn ardaloedd lle mae’r terfyn cyflymder wedi newid o 30mya i 20mya. Y nod yw helpu gyrwyr i addasu i’r newid.

Mae Ymgyrch Ugain yn defnyddio offer monitro cyflymder i adnabod pobl sy’n teithio’n gynt na’r terfyn cyflymder, cyn i swyddogion heddlu stopio’r cerbyd a rhoi dewis i’r gyrrwr o ymgysylltu ymyl ffordd neu bwyntiau a dirwy. Tra bydd gyrwyr yn cael cynnig yr ymgysylltu am ddim fel dewis amgen, gallant wrthod, a fydd yna’n arwain at erlyniad. Ni fydd y rhai sy’n gyrru llawer cynt na’r terfyn cyflymder yn gymwys ar gyfer sesiwn ymgysylltu, a byddant yn cael eu herlyn.  

Os yw gyrwyr yn dewis yr ymgysylltu, bydd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru’n rhoi cyflwyniad am ddim sy’n para tua 10 munud. Mae’n anelu i hysbysu pobl am y newid i’r terfyn cyflymder diofyn, y rhesymau dros y newid, a sut y gallant adnabod y ffyrdd mae’n berthnasol iddynt.

Mae sesiynau ymgysylltu eisoes wedi’u cynnal gan GanBwyll, Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru, Awdurdodau Lleol a Heddluoedd Cymru cyn lansio Ymgyrch Ugain. Bydd y timoedd arbennig newydd yn caniatáu ar gyfer cynnydd o ran gweithgarwch ymgysylltu.